Mwy o Syniadau am anrhegion gwin
Gyda'r nadolig ond ychydig wythnosau i ffwrdd, dyma grynhoi ychydig mwy o syniadau am anrhegion bwyd a gwin.
Cliciwch ar y lluniau islaw am fwy o wybodaeth a chysylltiad I gwefannau'r cwmniau perthnasol.

Cywain / Harvest: Ryseitiau o'r Add / Recipes from the Garden - Nerys Howell - £19.99 (Ar gael o www.ylolfa.com, Siop Cant a Mil Caerdydd, Caban Caerdydd, Palas Print Caernarfon a siopau llyfrau ar draws Cymru
Llyfr coginio dwyieithog gan yr arbeingwraig bwyd Nerys Howell. Gan ganolbwyntio ar ryseitiau a llysiau o'r ardd, mae'n lyfr sy'n defnyddio cynwhysion tymhorol gyda lluniau gwych o'r holl ryseitiau. Mae Nerys yn enw a gwyneb cyfarwydd ar raglenni megis Prynhawn Da a Heno ar S4C ac yn arbenigwraig ar fwydydd a diodydd Cymreig. Llyfr gwerth ei gael yn yr hosan Nadolig ac un bydd yn ddefnyddiol drwy'r flwyddyn.
Jin Talog - Ar gael o www.jintalog.wales neu o gyflenwyr rhestrir ar wefan Jin Talog
Er nad yn win, rydym yn hoff iawn o'r jin yma, sy'n jin organig, traddodiadol wedi ei gynhyrchu a llaw yn Talog, Sir Gaerfyrddin. Yn enillwyr tair Seren y 'Good Taste', a'r unig jin yng Nghymru sydd wedi derbyn y gymeradwyaeth yma, mae'n llyfn, yn flasus ac yn jin unigryw sy'n cwmpasu ardal Sir Gaerfyrddin yn wych. Gyda dewis o jin sych Llundain (London Dry) neu Jin gyda blasau pubur pinc, meryw a merfain lemonaidd neu meryw a deilen llawryf, mae'n jin sydd yn cyfuno'n wych gyda thonig 'Fever Tree'.
Un o'r jin's gorau rydym wedi ei flasu yma yn Gwin a Mwy.
Gwin Llaethliw, Aberaeron, Ceredigion - www.llaethliw.co.uk neu ar gael o Gwin Dylanwad Dolgellau, VinVan Cymru
Menter Richard a Siw Evans a'r teulu yn Neuadd Lwyd, ger Aberaeron yw Gwinllan Llaethliw. Yn dilyn penderfyniad i arallgyfeirio a phlannu gwinwydd, mae'r winllan yn cynhyrchu gwinoedd gwyn, coch a rose, yn ogystal a gwinoedd pefriog. Mae'r winllan hefyd yn cynnig teithiau a sesiynau blasu, yn ogystal a chynhyrchu seidr - Hansh. Mae llety hunan arlwy ar gael ac mae'r profiad o gael aros ar y winllan a blasu ffrwyth llafur Richard a Siw yn brofiad anhygoel. Anrheg cwbl unigryw! Ceir mwy o fanylion am y teithiau a'r sesiynau blasu ar ei gwefan. Gwinoedd bendigedig sy'n gweddu i unrhyw achylsyur.
Hamperi Gwin a Bwydydd unigryw gan Gwin Dylanwad, Dolgellau - www.dylanwad.co.uk
Mae siop Gwin Dylanwad yn Nolgellau yn gyrchfan poblogaidd i win-garwyr wrth deithio ar hyd yr A470 rhwng y De a'r Gogledd. Mae Dylan a Llinos yn cynnig amrywiaeth helaeth o winoedd o bob cyfandir, gyda gwasanaeth personol ac argymhellion gwych am winoedd a paru bwydydd. Rhai o'n ffefrynnau ni yma yn Gwin a Mwy yw'r dewis o hamperi gwin a bwyddydd gynnigir. Mae'r amrywiaeth a'r prisiau yn gystadleuol tu hwnt, gyda nwyddau a gwinoedd safonol yn rhan o'r hamperi yma. Os am flas bwydydd a nwyddau Cymreig, wedi ei dewis yn ofalus, yna does unman gwell na Gwin Dylanwad i gynnig anrhegion fydd yn sicr o blesio!
Llewys Oeri Gwin Le Creuset - www.amazon.co.uk - £20.00
Dyma un o'r nwyddau gwin mwyaf defnyddiol rydym wedi ei brofi yma yn Gwin a Mwy. Trwy osod y llewys yn y rhewgell, medrir oeri gwin i'r tymheredd cywir o fewn 20 munud. Os yw'r gwin wedi ei oeri eisoes, yna mae'n cadw'r gwin ar y tymheredd priodol am ychydig oriau. Mae'n ddelfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau, o bicnics yn y parc, bwyta yn yr ardd yn ystod yr haf neu i gadw'r gwin ar y tymheredd cywir dros swper gyda ffrindiau. Daw mewn lliw du, coch, pinc neu oren. Anrheg defnyddiol tu hwnt bydd yn siwr o blesio drwy'r flwyddyn.
Sesiynau Blasu Gwin - VinVan Cymru, Caerdydd - www.vinvancymru.co.uk
Os am anrheg a phrofiad cwbl gwahanol, yna mae VinVan Cymru yn Marchnad y Corp, Treganna, Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o nosweithiau blasu gwin. Mae Sara - "Cwin y Gwin" a pherchennog VinVan Cymru - yn hynod o brofiadol wrth arwain nosweithiau o'r fath, gan gynnig themau unigryw a gwinoedd sy'n gweddu i'r thema hynny. Medrir hefyd prynu talebau ar gyfer y nosweithiau ymt neu beth am alw heibio i weld y dewis gwych o win sydd ar gael ac I gael sgwrs ac argymhellion gan y "Cwin" ei hun!






